With some sadness I have to tell you that I will be leaving Wikimedia UK, as an employee, if not as a volunteer, at the end of the year. I have achieved what I set out to do and leave WMUK in a good state. I now need to look for new challenges.
I was the first chief executive and it has been an amazing three years watching the chapter grow and develop. It has not always been smooth sailing but we have come through it together in good shape. Wikimania proved how professional we had become and the positive feedback from the participants makes all the work we put in worthwhile.
My heartfelt thanks to everyone in the community, particularly the volunteers who are at the heart of all we do, my great colleagues at the Foundation and the loyal and hardworking staff at WMUK who have supported me so ably and with such good humour over the years.
My best wishes go to my successor in all they seek to achieve.
Cyhoeddiad gan Jon
Gyda pheth tristwch rwy'n eich hysbysu y byddaf yn gadael Wikimedia UK, fel cyflogai, os nad
fel gwirfoddolwr, ar ddiwedd y flwyddyn. Dw i wedi cyflawni'r hyn roeddwn wedi'i obeithio a dw
i'n gadael WMUK ar delerau da. Edrychaf ymlaen rwan am sialensau newydd. Fi oedd y Prif Weithredwr cyntaf ac mae'r dair blynedd diwethaf wedi bod yn hollol anhygoel,
wrth i mi weld y siaptr yn tyfu a datblygu. Doedd y daith bob amser ddim yn llyfn, ond daethom drwyddi'n y diwedd yn ddianaf! Profodd Wikimania inni aeddfedu mewn modd proffesiynol a chafwyd adborth adeiladol gan y cyfranwyr oedd yn gwneud yr holl waith yn bleser.
Carwn ddiolch o waelod fy ngalon i bawb o fewn ein cymuned, yn enwedig y gwirfoddolwyr sy'n sylfaen i'n gwaith, fy nghydweithwyr bendigedig yn Sylfaen Wikimedia a'r staff sydd wedi bod mor driw i mi, wedi fy nghefnogi mor effeithiol ac wedi gweithio mor arbennig o galed dros y blynyddoedd a hynny gyda hiwmor iach. Dymunaf pob llwyddiant i f'olynydd ym mhopeth y ceisiant ei gyflawni.